Siopwyr
Mae 9 ymwelydd arall yn siopa hefyd.
|

Danfon/Dychwelyd
Gobeithio eich bod yn fodlon iawn efo'ch nwyddau o Bopeth yn Gymraeg. Os bydd angen i chi ddychwelyd nwyddau gwallus mewn unrhyw ffordd neu eich bod wedi derbyn y nwyddau anghywir hoffem i chi ddarllen y polisi isod.
Nwyddau Gwallus Gellir dychwelyd unrhyw eitem o fewn 30 diwrnod i'w brynu os yw'r eitem hwnnw' â gwall neu nam arno. Nid ydym yn derbyn nwyddau wedi eu hagor oni bai eu bod yn wallus. Byddwn yn ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio.
Costau Cludiant Os ydych yn dychwelyd nwyddau am eu bod yn wallus neu'n anghywir, byddwn yn ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio. Mewn unrhyw achos arall, bydd y costau hynny, a chostau unrhyw wasanaeth arall a ddarperir ichi, yn disgyn arnoch chi.
Dychwelyd Nwyddau Wrth ddychwelyd unrhyw nwyddau, nodwch yn glir y rhesymau dros eu dychwelyd, paciwch nhw'n iawn, a dychwelwch y pecyn i'r cyfeiriad isod (Gyda nwyddau diffygiol, nodwch natur y diffyg, a dychwelwch yr eitem yn ei flwch gwreiddiol): Popeth yn Gymraeg, Brysgyni Ganol, Capel Uchaf, Clynnog Fawr, Gwynedd LL54 5DL. Er eich lles chi a ninnau, hoffem i chi ddefnyddio'r gwasanaeth post cofrestredig. Nid yw'r polisi hwn yn effeithio eich hawliau statudol.
Dalier Sylw: Os ydych yn dychwelyd eitem a archebwyd gennych, a hwnnw heb wall na nam, chi fydd yn gyfrifol am y costau postio/cludo.
Canslo Archeb Yn unol â chyfaith Prydain, mae gennych yr hawl i ganslo unrhyw gytundeb prynu o fewn 7 niwrnod i dderbyn y nwyddau. Mae hyn yn berthnasol i'n holl nwyddau ein Siop, ond ni allwn dderbyn dileu unrhyw gytundeb ynglyn â phrynu DVD neu CD neu gynnyrch meddalwedd os yw'r sêl pecynnu wedi ei dorri. I ganslo'r cytundeb, rhowch nodyn gyda’r eitem gan nodi pam eich bod yn ei ddychwelyd fel "Canslo/Dileu'r Cytundeb". Paciwch yr eitem yn ofalus a'i ddychwelyd gyda'r ffurflen o fewn 7 diwrnod gwaith o'r dyddiad y cawsoch chi o. Chi fydd yn gyfrifol am y costau postio.
|
|
|